Grŵp Hollbleidiol ar Faterion Pobl Fyddar

 

30 Mawrth 2015

 

Yn bresennol:

 

Ann Jones (Cadeirydd)

Donna Cushing (Ysgrifennydd sy’n gyfrifol am y Cofnodion)

Katie Chappelle (Ysgrifennydd)

 

Cynrychiolwyr / rhanddeiliaid

 

Rebecca Woolley

Catrin Edwards

Jane Dulson

Wendy Marshal

Jim Edwards

Jon Day, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (yn cynrychioli Jonathan Arthur)

 

Aelodau'r Cynulliad

 

Mark Isherwood

 

Cymorth cyfathrebu

 

Joanne Manneh (Dehonglydd)

Nikki Williams (Dehonglydd)

Francis Barrett (palandeipydd)

 

Croeso ac ymddiheuriadau

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

Cafwyd ymddiheuriadau gan Jonathan Arthur, Mike Hedges AC, Richard Williams, Patrick McNamara, Cathie Robins-Talbot, Sian Morgan, Nigel Williams a Jacqui Bond.

 

 

Y diweddaraf am Fynediad i Waith

 

Rhoddodd Jim Edwards y wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau ar y cap arfaethedig ar Fynediad i Waith.  Cafodd diweddariad ei ddosbarthu'n flaenorol i aelodau ar ganlyniadau cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Ionawr 2015 rhwng grwpiau anabledd a swyddogion o'r Adran Gwaith a Phensiynau.  Dywedodd Jim wrth yr aelodau bod hyn bellach wedi cael ei ohirio tan fis Hydref ac y bydd cwsmeriaid presennol yn destun oedi am 3 blynedd arall.  Roedd pryderon, fodd bynnag, ynghylch unigolion hunangyflogedig nad ydynt yn ennill digon i gyfiawnhau taliad am ddarpariaeth gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

 

Bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at y Gweinidog ac yn cysylltu â Jim Edwards ynghylch y mater hwn.

 

 

Achub 'Hear to Help'

 

Dywedodd Rebecca Wooley o Action on Hearing Loss (AOHL) wrth aelodau mai un flwyddyn o gyllid yn unig sydd ar ôl ar gyfer y gwasanaeth hwn.  Mae'n wasanaeth cymunedol sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr.  Soniodd Rebecca Wooley am gefndir hanesyddol y gwasanaeth a'r rhesymau pam y cafodd ei sefydlu yn wreiddiol.

 

Dywedodd Rebecca Wooley bod y gwasanaeth yn un gwerthfawr ledled Cymru, a bod ystadegau'n dangos ei bod yn cael ei ddefnyddio'n dda ac yn cymryd rhywfaint o bwysau oddi ar yr adrannau awdioleg o ran mân waith atgyweirio.

 

Mae lefel uchel o foddhad am y gwasanaeth ymysg y bobl sy'n ei ddefnyddio ,nid yn unig o ran agosrwydd at gartref, ond o ran cefnogaeth gam gymheiriaid sy'n deall y sefyllfa.

 

Mae'r Gwasanaeth yn cael ei ariannu ar hyn o bryd gan y Loteri Fawr, ond mae hyn yn dod i ben ar 31 Mawrth 2016.

 

Awgrymodd yr aelodau bod dadansoddiad cost a budd yn cael ei wneud i weld i ba raddau y mae'r gwasanaeth wedi cyfrannu at y sector statudol. Nododd Rebecca bod AOHL ar hyn o bryd yn gwneud y gwaith hwn, ac y bydd y canlyniadau ar gael yn y misoedd i ddod.

 

Trafododd yr Aelodau y mater hwn yn fanwl ac amlinellodd AOHL na fyddent yn gwneud cais am unrhyw gyllid pellach, ond y byddent yn siarad â Byrddau Iechyd Lleol i weld a fyddant yn ariannu'r gwasanaeth hwn, fel rhan o ôl-ofal awdioleg yn y dyfodol.  Bydd y grŵp trawsbleidiol yn cefnogi'r gwasanaeth yn ôl yr angen.

 

 

Cost dosbarthiadau darllen gwefusau

 

Rhoddodd Donna Cushing ddadansoddiad o'r costau mewn awdurdodau gwahanol yng Nghymru o ran darparu dosbarthiadau darllen gwefusau.  Nid oes unffurfiaeth o ran y gost a chred Cyngor Cymru yw na ddylai'r sgil hwn ddod o dan Addysg, ond yn hytrach y dylai ddod o dan gylch gorchwyl yr Awdurdod Iechyd.  Mae'n sgil bywyd a dylai fod yn rhan o'r broses adsefydlu.  

 

Mae dosbarthiadau yn profi'n rhy gostus i nifer o'r genhedlaeth hŷn, a'r rhain yw'r unigolion sy'n cael eu heffeithio fwyaf gan hyn.  Mae gan Gymru boblogaeth sy'n heneiddio.  Dywedodd Donna Cushing y dylid newid y terminoleg o 'dosbarthiadau darllen gwefusau' i 'sgiliau darllen gwefusau'. Mae hyn yn cymryd y cyfrifoldeb i ffwrdd o'r system addysg, a gellid ei drefnu drwy'r adrannau awdioleg, gan gynnig atgyfeiriadau uniongyrchol i unigolion sy'n gofyn am y sgil hwn, neu sydd ei angen. 

 

Trafododd yr Aelodau y mater hwn a dywedodd y Cadeirydd y bydd yn ymchwilio i'r mater, gan ei bod hi'n bosibl y gallai ddod o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol newydd ac Ail-alluogi.

 

Dyddiad y cyfarfod nesaf

 

Cynhelir y cyfarfod nesaf yn ystod ail wythnos mis Mehefin.   Bydd y cyfarfod hwn yn cynnwys y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

 

 

Cyfarfod cyhoeddus

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a chyflwynodd aelodau'r grŵp.   Rhoddodd y Cadeirydd drosolwg byr o'r grŵp a'i amcanion.

 

Cyflwynodd y Cadeirydd Jon Day - Awdiolegydd gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

 

Cyflwyniad: Awdioleg yng Ngogledd Cymru

 

Rhoddodd Jon Day drosolwg o'r mathau o wasanaethau a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd ar draws Cymru a lle maent wedi'u lleoli.

 

Amlygodd Jon Day rai o anghenion cymhleth cleifion a sut y gallant gyflawni eu nodau.  Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymdrechu i wneud y gorau o dechnoleg a dyfeisiau cynorthwyo i helpu cleifion.  Yn ogystal, mae rhan o'u gwaith yn cynnwys dyfeisiadau mewnblanadwy megis mewnblaniadau yn y cochlea a chymhorthion clywed sydd wedi'u hanghori yn yr asgwrn.

 

Rhoddodd Jon Day gyflwyniad manwl ar yr amrywiol faterion ynghylch colli clyw a sut mae gwahanol sectorau ac adrannau yn gweithio'n agos ar weithgorau ar y cyd.   Mae'r byrddau iechyd yn gwerthfawrogi'r gwirfoddolwyr sy'n cynorthwyo gyda mân atgyweiriadau i gymhorthion clyw.

 

Mae'n rhaid i'r Bwrdd Iechyd gyflawni safonau ansawdd, ac mae arolwg boddhad i gleifion yn cael ei ddosbarthu.

 

Mae yna nifer o feysydd y mae'r Bwrdd Iechyd yn cymryd rhan ynddynt, gan gynnwys cleifion â sawl anabledd a phroblemau iechyd cronig.

 

Dywedodd Jon Day ei fod yn credu mai'r prif her o ran awdioleg yw sicrhau ei fod yn aros ar yr agenda.  Mae angen dull cydlynol gan bawb o ran y cynllun awdioleg cenedlaethol.  Bydd defnyddio'r dull hwn yn pwysleisio effaith colli clyw ac effaith anawsterau cyfathrebu ar ein iechyd ehangach ac anghenion cymdeithasol ac addysgol unigolion.

 

Gofynnwyd cwestiynau ar nifer o faterion, gan gynnwys sgiliau darllen gwefusau ar gyfer pobl sydd â nam ar eu clyw, pobl ifanc a chymhorthion clyw - eu delwedd a chyswllt posibl rhwng dementia a cholli clyw.

 

Fe wnaeth Aelodau'r Cynulliad a Jon Day aten pob cwestiwn mewn modd boddhaol.

 

 

Sesiwn holi ac ateb cyhoeddus i aelodau'r grŵp

 

Gwahoddwyd aelodau o'r cyhoedd i ofyn cwestiynau i aelodau'r grŵp.  Gofynnwyd nifer o gwestiynau, gan gynnwys:-

 

 

Awgrymodd yr aelodau y dylid gwneud cyswllt â gofal sylfaenol drwy Fyrddau Iechyd Lleol ac ymarferwyr, a gofyn iddynt dynnu sylw at y wybodaeth hon mewn practisau meddygon teulu.

 

 

Nododd yr aelodau nifer o opsiynau a oedd ar gael i'r unigolion hyn, gan gynnwys: gofyn am gyfathrebwr i fynychu, a gwneud hynny am ddim; defnyddio budd-daliadau fel Lwfans Byw i'r Anabl; neu hyd yn oed gofyn i'r grŵp di-elw i gynorthwyo - o dan y Ddeddf Cydraddoldeb mae'n bosibl bod ganddynt ddyletswydd i ddarparu cymorth cyfathrebu.

 

 

Dywedodd y Cadeirydd bod hyn wedi cael ei drafod yn y cyfarfod preifat, a chytunwyd y byddai'r grŵp yn rhoi ei gefnogaeth i AOHL.  Bydd AOHL yn gweithio gyda'r Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru i barhau â'r gwasanaeth, a bydd yn llunio dadansoddiad cost a budd o ran faint mae'n ei arbed i'r GIG.

 

 

Mae'r grŵp trawsbleidiol yn becyn cymorth ychwanegol y mae'r Cynulliad yn ei ddefnyddio wrth ddarparu gwybodaeth ac ymgyrchu ar gyfer pobl fyddar a thrwm eu clyw.  Nid yw'n cael ei ariannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru.   Mae'r holl gyllid yn cael ei ddarparu gan yr Aelodau Cynulliad sy'n mynychu; mae'n dod allan o'u cyllidebau, gan gynnwys darpariaeth cyfathrebu.  Mae'r Cadeirydd a Mark Isherwood yn dod o Ogledd Cymru ac yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi'r materion ar gyfer y rhai sydd â nam ar eu clyw yn yr ardal hon.  Mae AOHL a Cyngor Cymru i Bobl Fyddar yn darparu'r ysgrifenyddiaeth ar gyfer y cyfarfodydd.  Rydym yn manteisio ar arbenigedd yr aelodau sy'n mynychu'r cyfarfodydd hyn ac yn defnyddio'r wybodaeth hon i ddylanwadu ar Weinidogion.  Mae'r grŵp yn dechrau teithio mwy ar draws Cymru. Fodd bynnag, maent yn dibynnu'n drwm ar aelodaeth y grŵp, sy'n cynnwys y sector gwirfoddol yn bennaf, a'u gallu i fod yn bresennol.  Y gobaith yw y bydd mwy o gyfarfodydd cyhoeddus yn cael eu cynnal yn y dyfodol.

 

 

Mae'r grŵp yn cynnwys aelodau sy'n cynrychioli Sefydliadau Cenedlaethol, neu sy'n adrodd i'r Sefydliadau Cenedlaethol, ac mae hyn wedi'i nodi yn ein cyfansoddiad.

 

 

Mae'r mater hwn wedi ei drafod eisoes a bydd y Cadeirydd yn arwain ar y gwaith o lunio papur ar y mater.

 

 

Trafodwyd y mater hwn yn fanwl ac fe wnaeth nifer o bobl ailadrodd eu profiadau personol o'r mater hwn. Ar hyn o bryd mae AOHL a Sense yn gweithio ar adroddiad ynghylch hyfforddiant cyfathrebu ac ymwybyddiaeth o fewn y GIG.  Mae'r grŵp yn parhau i ymgyrchu i'r Gweinidog dros y mater.

 

Soniwyd wrth y rhai oedd yn bresennol am brofiadau ychwanegol i ddarpariaeth cyfathrebu a rhwystrau.

 

Yn dilyn y sgwrs diddorol hwn am brofiadau'r rhai a oedd yn bresennol, daeth y Cadeirydd â'r cyfarfod i ben a diolchodd i bawb am eu presenoldeb a'u cyfranogiad.